Croeso i Ap Cylchgronau Cymru a grëwyd gan y Cyngor Llyfrau mewn cydweithrediad â’r cyhoeddwyr a chyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru. Bwriedir cynnwys cylchgronau Cymraeg a Saesneg, i blant ac oedolion, wrth i’r cynllun ddatblygu.
Y cylchgronau sydd ar gael trwy’r Ap ar hyn o bryd yw Cip, Planet, Poetry Wales, a’r Wawr. Mae Ap Cylchgronau Cymru hefyd ar gael yn Saesneg (Magazines of Wales App).
Bydd modd i ddefnyddwyr lawrlwytho rhifyn sampl yn rhad ac am ddim o bob cylchgrawn, prynu rhifynnau unigol neu danysgrifio. Mae croeso i chi anfon unrhyw awgrymiadau am ychwanegiadau neu welliannau at
[email protected].