Mae gan ap Clwb Mynydda Cymru wybodaeth am ein gweithgareddau, manylion am ein rhaglen a holl hanesion aelodau'r Clwb yn ein gweithgareddau amrywiol.
Mae Clwb Mynydda Cymru yn hyrwyddo mynydda drwy gyfrwng y Gymraeg. Unigolion sy’n mwynhau mynydda a mentro i’r uchelfannau ar hyd a lled Cymru yw aelodau’r Clwb. Mae’r Clwb yn agored i bawb sy’n hoff o fynydda mewn cwmni hwyliog, diogel a chefnogol.